Eseia 37 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Heseceia, yn ei dristwch, yn gyrru at Eseia i gael ganddo weddïo drosto ef a’i bobl. 6 Eseia yn eu cysuro hwy. 8 Senacherib yn myned i ymladd â Thirhaca, ac yn anfon llythyrau cablaidd at Heseceia. 14 Gweddi Heseceia. 21 Eseia yn proffwydo balchder a chwymp Senacherib, a llwyddiant Seion. 36 Angel yn lladd yr Asyriaid. 37 Lladd Senacherib yn Ninefe gan ei feibion ei hun.

1A chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

4Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

5Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

6A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

7Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

8Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.

9Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd,

10Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.

11Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?

12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar?

13Mae brenin genhedloedd a’u gwledydd,

19A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

20Yr awr hon gan hynny, O Arglwydd ein Duw, achub ni o’i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, tydi yn unig.

21Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria:

22Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl.

23Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.

24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gwr uchaf, ac i goed ei ddoldir.

25Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig.

26yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol.

27Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

28Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm, a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn.

29Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau; am hynny Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help