Salm 77 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 771 Y Salmydd yn dangos pa ymdrech creulon a fuasai rhyngddo ac anobaith; 10 a’r oruchafiaeth a gafodd, wrth ystyried mawr a grasusol weithredoedd Duw.I’r Pencerdd, i Asaff.

1A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd.

2Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.

4Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.

5 dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.

18Twrf dy daran a glywyd o amgylch: Salm 97:4mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.

19Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.

20 Exod 14:19; Salm 78:52; Hos 12:13 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help