Mathew 6 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —1 Crist yn myned rhagddo yn ei bregeth ar y mynydd; gan draethu am elusen, 5 a gweddi, 14 maddau i’n brodyr, 16 ac ympryd; 19 pa le y mae i ni roddi ein trysor i gadw; 24 ynghylch gwasanaethu Duw a mammon: 25 yn annog na bydder gofalus am bethau bydol; 33 ond am geisio teyrnas Dduw.

1Gochelwch rhag gwneuthur eich Deut 24:13; Salm 112:9; Dan 4:27; 2 Cor 9:9, 10elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

2Am hynny Rhuf 12:8pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

3Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau;

4Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe Luc 14:14a dâl i ti yn yr amlwg.

5A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau, ac yng nghonglau’r heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

6Ond tydi, pan weddïech, 2 Bren 4:33dos i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

7A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau.

8Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau, cyn gofyn ohonoch ganddo.

9Am hynny gweddïwch chwi fel hyn: Luc 11:2Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw.

10Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

11Dyro i ni heddiw ein bara Edrych Job 23:12; Diar 30:8beunyddiol.

12A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.

13Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. 1 Cron 29:11Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

14Marc 11:25; Eff 4:32; Col 3:13Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau:

15Eithr Pen 18:35; Iago 2:13oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau.

16Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

17Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben, a golch dy wyneb;

18Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

19 Diar 23:4; Heb 13:5; Iago 5:1 &c Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata;

20Luc 12:33; 1 Tim 6:19; 1 Pedr 1:4Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt.

21Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.

22Luc 11:34Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau.

23Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!

24 Luc 16:13 Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Gal 1:10; 1 Tim 6:17; Iago 4:4; 1 Ioan 2:15Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.

25Am hynny meddaf i chwi, Salm 55:22; Luc 12:22; Phil 4:6; 1 Pedr 5:7Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad?

26Job 38:41; Salm 147:9; Luc 12:24Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?

27A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

28A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu:

29Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn.

30Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?

31Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn?

32(Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn.

33Eithr Edrych 1 Bren 3:13; Salm 37:25; Luc 12:31yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.

34Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help