1Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab?
3Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win.
4A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt.
5Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi.
8A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.
10A phan ddaethant yno i’r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt.
11A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? Pen 19:24 A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
12Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
13Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i’r uchelfa.
14Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio’r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.
15Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi.
16A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.
17A Samuel a alwodd y bobl ynghyd Barn 11:11; 20:1; Pen 11:15at yr Arglwydd Pen 7:5i Mispa;
18Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi.
19A Pen 8:7, 19; 12:12chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.
20A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: Jos 7:14, 16a daliwyd llwyth Benjamin.
21Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef.
22Am hynny y gofynasant eto i’r Arglwydd, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn.
23A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, Pen 9:2yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl.
24A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, 1 Bren 1:25Byw fyddo’r brenin.
25Yna Samuel a draethodd Edrych Deut 17:14, &c; Pen 8:11gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr Arglwydd. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ.
26A Saul hefyd a aeth i’w dŷ ei hun i Gibea; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw â’u calon, a aeth gydag ef.
27Ond Pen 11:12meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac 1 Bren 10:25; 2 Cron 17:5; Salm 72:10; Mat 2:11ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.