1Wedi hynny yr oedd farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth;
3Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr.
4Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu’r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.
5Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.
6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?
7Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i.
8Yr Iesu a ddywedodd wrtho, o’r dyrfa oedd yn y fan honno.
14Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: gystal â Duw.
19Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pen 5:30; Ioan 8:28; 9:4; 12:49; 14:10Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.
20Canys y Pen 3:35Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
21Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno.
22Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr Mat 11:27; 28:18; Ad. 27; Ioan 3:35; 17:2efe a roddes bob barn i’r Mab:
23Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. 1 Ioan 2:23Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef.
24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pen 3:18; 6:40, 47; 8:51Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, Eff 2:1, 5pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw.
26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;
27Ac Pen 5:22; Act 10:42; 17:31; Edrych Dan 7:13, 14a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.
28Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef:
29A Dan 12:2; Mat 25:32, 33, 46; 1 Thess 4:16 hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
30Ad. 19Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys Pen 6:38nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
31Pen 8:14Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.
32 Mat 3:17; 17:5 Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi.
33Pen 1:15, 19, 27Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd.
34Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.
35Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac 2 Pedr 1:19yn goleuo; a Edrych Mat 13:20chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
36Ond 1 Ioan 5:9y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys Pen 10:25y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i.
37A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, Mat 3:17; 17:5; Ioan 8:18efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, Deut 4:12; 1 Tim 1:17; 6:16; 1 Ioan 4:12ac ni welsoch ei wedd ef.
38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
39 Esa 8:20; 34:16; Luc 16:29; Act 17:11 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a Deut 18:15, 18; Luc 24:27; Ioan 1:45hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi.
40Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
41Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.
42Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
43Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
44Pen 12:43Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r Rhuf 2:29gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
45Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: Rhuf 2:12y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid Gen 3:15; 12:3; 18:18; 22:18; 49:10; Deut 18:15, 18; Act 26:22amdanaf fi yr ysgrifennodd efe.
47Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.