Eseciel 26 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Bygwth Tyrus, am ei rhyfyg yn erbyn Jerusalem. 7 Gallu Nebuchodonosor yn ei herbyn hi. 15 Cwynfan a syndod y môr oherwydd ei chwymp hi.

1Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2Ha fab dyn, esyd wrthglawdd i’th erbyn, ac a fwrw glawdd i’th erbyn, ac a gyfyd darian i’th erbyn.

9Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill.

10Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a’th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a’r olwynion, a’r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.

11A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â’r cleddyf, a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr.

12A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a’th dai dymunol a dynnant i lawr: a’th gerrig, a’th goed, a’th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.

13dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.

17Codant hefyd gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a’i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?

18Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.

19Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y’th guddio dyfroedd lawer;

20A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, at y bobl gynt, a’th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, fel na’th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;

21ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni’th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help