Mathew 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —2 Ioan yn anfon ei ddisgyblion at Grist. 7 Tystiolaeth Crist am Ioan. 18 Tyb y bobl am Ioan, a Christ. 20 Crist yn dannod anniolchgarwch a diedifeirwch Chorasin, Bethsaida, a Chapernaum: 25 a chan foliannu doethineb ei Dad, yn egluro yr efengyl i’r rhai bychain; 28 yn galw ato y rhai sydd yn teimlo baich eu pechodau.

1A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2Luc 7:18A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o’i ddisgyblion,

3A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?

4A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch.

5Esa 29:18; 35:5, 6Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r Esa 61:1; Luc 4:18tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.

6A dedwydd yw’r hwn ni 1 Cor 1:23; Gal 5:11rwystrir ynof fi.

7 Luc 7:24 Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?

8Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai proffwyd? ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd:

10Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd, Mal 3:1; Marc 1:2; Luc 7:27Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.

11Yn wir meddaf i chwi, Ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.

12Luc 16:16Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.

13Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan.

14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Mal 4:5; Pen 17:12; Luc 1:17Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod.

15Pen 13:9; Luc 8:8; Dat 2:7, 11, 17, 29; 3:6, 13, 22Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

16 Luc 7:31 Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,

17Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.

19Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

20 Luc 10:13 Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent:

21Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw.

22Eithr meddaf i chwi, Pen 10:15Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi.

23A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw.

24Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti.

25 Luc 10:21 Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti Edrych Salm 8:2; 1 Cor 1:27; 2:8guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain:

26Ie, O Dad; canys felly y rhyngodd fodd i ti.

27Pen 28:18; Ioan 3:35; 13:3; 17:2Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; Ioan 1:18; 6:46; 10:15ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.

28Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.

29Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a Sech 9:9; Phil 2:7, 8gostyngedig o galon: Jer 6:16a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau:

301 Ioan 5:3Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help