1Ac o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim.
4myrllyd: eithr efe nis cymerth.
24Ac wedi iddynt ei groeshoelio, ddaear hyd y nawfed awr.
34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Salm 22:1; Mat 27:46Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?
35A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.
36Ac Ioan 19:29un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac Salm 69:21a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr.
37Mat 27:50; Ioan 19:30A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r ysbryd.
38Mat 27:51; Luc 23:45A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.
39Mat 27:54; Luc 23:47A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.
40Mat 27:55Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;
41Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, Luc 8:2, 3a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.
42 Mat 27:57; Luc 23:50; Ioan 19:38 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,)
43Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau Luc 2:25, 38yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.
44A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin.
45A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff.
46Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
47A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.