Micha 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Yn erbyn trais. 4 Cwynfan. 7 Ceryddu anghyfiawnder a delw‐addoliaeth. 12 Addo adfer Jacob.

1Gwae gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ, dyn a’i etifeddiaeth.

3Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.

4Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.

5Am hynny ni bydd i ti phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.

7O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn?

8Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel.

9Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth.

10Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost.

11Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn.

12Gan gasglu y’th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn.

13Daw y rhwygydd i fyny o’u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o’u blaen, a’r Arglwydd ar eu pennau hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help