1 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.
2 troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.
4Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.
5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
6Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.
8Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys Sech 9:10efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd.
9Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
10Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; Salm 72:3; Esa 32:17cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.
11 Esa 45:8 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.
12Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; Salm 67:6a’n daear a rydd ei chnwd.
13 Salm 89:14 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
