Eseia 39 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

Merodach‐baladan yn anfon i ymweled â Heseceia oherwydd y rhyfeddod, ac wrth hynny yn cael gwybodaeth o’i drysorau ef: 3 ac Eseia yn cael gwybod hynny, ac yn rhagfynegi y caethglud i Babilon.

1Yn dŷ ei drysorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

3Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon.

4Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt.

5Yna Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air Arglwydd y lluoedd.

6Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.

7Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw ohonot, sef y rhai a genhedli, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon.

8Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help