1 Samuel 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y Philistiaid yn dwyn yr arch i Asdod, ac yn ei gosod yn nhŷ Dagon. 3 Bwrw Dagon i lawr, a’i dorri yn ddarnau, a tharo gwŷr Asdod â chlwyf y marchogion. 8 Duw yn gwneuthur felly i wŷr Gath, pan ddygwyd hi yno; 10 ac felly i wŷr Ecron.

1A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.

2A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.

3A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le.

4Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.

5Am hynny Edrych Seff 1:9ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.

6A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid; ac efe Pen 6:5a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â Salm 78:66chlwyf y marchogion.

7A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.

8Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno.

9Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.

10Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl.

11Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno.

12A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help