Eseciel 38 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Llu 8 a malais Gog. 14 Barn Duw yn ei erbyn ef.

1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Gosod dy wyneb, pen‐tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn,

3A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal.

4Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm:

6Gomer a’i holl fyddinoedd; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd, a’i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi.

7Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a’th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.

8Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o’r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.

9Dringi hefyd fel tymestl; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a’th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi.

10Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg.

11A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,

12I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o’r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad.

13Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â’u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?

14Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod?

15A thi a ddeui o’th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog.

16A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteiddiwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt.

17Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt?

18A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd Dduw, i’m llid gyfodi yn fy soriant.

19Canys grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr.

21A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd.

22Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: Salm 11:6glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef.

23Fel hyn Pen 36:23; 37:28yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help