1Tithau fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o’th flaen, a llunia arni ddinas Jerwsalem:
2A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o’i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.
3Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a’r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.
4Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.
5Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.
6A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti.
7A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a’th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.
8Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.
9Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
10A’th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.
11Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.
12Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a’i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt.
13A dywedodd yr Arglwydd, Felly Hos 9:3y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.
14Yna y dywedais, Act 10:14O Arglwydd Dduw, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais Exod 22:31; Lef 11:40; 17:15; Deut 14:3furgyn neu ysglyfaeth o’m hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i’m safn gig ffiaidd.
15Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara.
16Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele Lef 26:26; Salm 105:16; Esa 3:1; Pen 5:16; 14:13fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.
17Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac Lef 26:39y darfyddont yn eu hanwiredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.