1Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel,
2A dywed, Beth yw dy fam? llewes: gorweddodd ymysg llewod, yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon.
3A hi a ddug i fyny un o’i chenawon: gweddwon hwynt, a’u dinasoedd a anrheithiodd efe; ie, anrheithiwyd y tir a’i gyflawnder gan lais ei ruad ef.
8Yna cadwyni, ac a’i dygasant at frenin Babilon: dygasant ef i amddiffynfeydd, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.
10Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd: ffrwythlon a brigog oedd, oherwydd dyfroedd lawer.
11Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a’i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau.
12Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i’r llawr, a Pen 17:10; Hos 13:15gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a’u hysodd.
13Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir cras a sychedig.
14A Barn 9:15thân a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
