Esra 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Pa rai a ddychwelsant gydag Esra o Babilon. 15 Esra yn danfon at Ido am weinidogion i’r deml: 21 yn cadw ympryd: 24 yn gorchymyn y trysorau i gadwraeth yr offeiriaid. 31 Y bobl yn dyfod o Ahafa i Jerusalem. 33 Pwyso y trysor yn y deml. 36 Rhoi gorchymyn y brenin at y pendefigion.

1A dyma eu pennau‐cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin, allan o Babilon.

2O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.

13Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.

14Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.

15A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi.

16Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:

17A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw.

18A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i feibion, a’i frodyr, ddeunaw;

19A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a’i frodyr, a’u meibion, ugain;

20Ac brydferth ag aur.

28A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r Arglwydd; a’r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau.

29Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd.

30Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni.

31A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf, i fyned i Jerwsalem: a Pen 7:6, 28llaw ein Duw oedd arnom ni, ac a’n gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd.

32A ni Neh 2:11a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.

33Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri, yn nhŷ ein Duw ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt;

34Wrth rifedi, ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw.

35Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, Felly Esra 6:17a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech‐aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r Arglwydd.

36A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help