Numeri 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Symud yr aflan allan o’r gwersyll. 5 Rhaid yw gwneuthur iawn dros gamweddau. 11 Eiddigedd, pa un ai heb achos, ai trwy achos y mae.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:

15Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd.

16A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr Arglwydd.

17A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.

18A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr Arglwydd, a diosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith.

19A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gŵr gyda thi, ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith.

20Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun:

21Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig, Rhodded yr Arglwydd dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;

22Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.

23Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw.

24A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi, yn chwerw.

25A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ef ar yr allor.

26A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr.

27Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a’r wraig Deut 28:57; Salm 83:9, 11; Jer 24:9; 29:18, 22; 42:18; Sech 8:13a fydd yn felltith ymysg ei phobl.

28Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta.

29Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi:

30Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.

31A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help