1A Dafydd a ddywedodd yn ei galon, Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul: nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi, ac na’m ceisio mwy yn holl derfynau Israel. Felly y dihangaf o’i law ef.
2A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyodd, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, at Achis mab Maoch, brenin Gath.
3A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath, efe a’i wŷr, pob un gyda’i deulu; Dafydd a’i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal, y Garmeles.
4A mynegwyd i Saul, ffoi o Dafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.
5A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o’r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?
6Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae flwyddyn a phedwar mis.
8A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a’r Gesriaid, a’r Amaleciaid: canys hwynt‐hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft.
9A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a’r gwartheg, a’r asynnod, a’r camelod, a’r gwisgoedd, ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis.
10Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
