1Yna yn y fan hon.
21Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a’th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o’r nefoedd; a phan glywech, maddau.
22Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:
23Yna gwrando di o’r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i’r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.
24A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn:
25Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy, ac i’w tadau.
26 yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo;
29Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a’i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn:
30Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i.
34Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:
35Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.
36Os pechant i’th erbyn, (canys ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos;
37Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol;
38Os dychwelant atat â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiwed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:
39Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn.
40Yn awr, O fy Nuw, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir tua’r lle yma.
41Ac Salm 132:8, 9, 10, 16yn awr cyfod, O Arglwydd Dduw, i’th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O Arglwydd Dduw, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni.
42O Arglwydd Dduw, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia Esa 55:3drugareddau Dafydd dy was.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.