1 Cronicl 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1, 11 Hiliogaeth Jwda o Caleb mab Hur, 5 ac o Asur mab Hesron. 9 Jabes, a’i weddi. 21 Hiliogaeth Sela, 24 a Simeon, a’i ddinasoedd. 39 Eu gorfodaeth ar Gedor, a’r Amaleciaid, ym mynydd Seir.

1Meibion Jwda; Charmi, a Hur, a Sobal.

2A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid.

3A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi.

4A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid.

10A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.

11A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston.

12Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha.

13A meibion Cenas; Hathath.

14A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad Cenas.

16A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel.

17A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa.

18A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered.

19A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.

20A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.

21A meibion Sela Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:

25Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.

26A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.

27Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.

28A Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,

30Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag,

31Ac yn Beth‐marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth‐birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd.

32A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd.

33A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a’u hachau.

34A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia,

35A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel,

36Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia,

37A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.

38Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.

39A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i’w praidd.

40A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham.

41A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i’w praidd hwynt yno.

42Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt.

43Trawsant hefyd Edrych 1 Sam 15:8; 30:17; 2 Sam 8:12y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help