Actau’r Apostolion 23 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 60. —1 Paul yn ateb drosto ei hun. 2 Ananeias yn gorchymyn ei daro ef. 7 Ymryson ym mysg ei gyhuddwyr ef. 11 Duw yn ei gysuro ef. 14 Yr Iddewon yn cynllwyn iddo; 20 a dangos hynny i’r pen‐capten: 27 yntau yn ei anfon ef at Ffelix y rhaglaw.

1A Phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul.

13Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn.

14A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul.

15Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i’w ladd ef.

16Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i’r castell, ac a fynegodd i Paul.

17A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo.

18Ac efe a’i cymerth ef, ac a’i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a’m galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt.

19A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi?

20Ac efe a ddywedodd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti.

22Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef.

23Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o’r nos;

24A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw.

25Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma:

26Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch.

27arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau.

30A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr, myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach.

31Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris.

32A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelsant i’r castell:

33Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.

34Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd;

35Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help