1A phan glybu ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi.
4A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe,
5A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.
6A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.
7Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i.
8Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb.
9Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder.
10A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon.
11A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr.
12o’i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.
14A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;
15Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.
16A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian:
17tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn y fath yn un deyrnas.
21A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon.
22Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.
23wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
28 meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.
29A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, Jos 1:4; 2 Bren 7:6ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.