2 Samuel 14 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Joab yn gosod gwraig weddw o Tecoa, trwy ddameg, i droi calon y brenin i gyrchu ei fab adref; ac yn ei ddwyn ef i Jerusalem. 25 Tegwch, gwallt, a phlant Absalom. 28 Joab, ym mhen dwy flynedd, yn dwyn Absalom i gwrdd y brenin.

1Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom.

2A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw:

3A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.

4A’r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin.

5A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a’i lladdodd ef.

7Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.

8A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i’th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di.

9A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog.

10A’r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.

11Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, yn gysur: canys ei was.

23A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.

24A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.

25 Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef.

26A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin.

27Edrych Pen 18:18A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.

28Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin.

29Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim.

30Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân.

31Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân?

32Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.

33Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help