Jona 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Danfon Jona i Ninefe, ac yntau yn ffoi i Tarsis: 4 a thymestl yn ei gyhuddo ef. 11 Ei daflu ef i’r môr, 17 a physgodyn yn ei lyncu ef.

1A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd,

2Cyfod, dos i Ninefe gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong.

5Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a gweithio yr oedd y môr, a therfysgu.

12Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.

13Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.

14Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, O Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.

15Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a pheidiodd y môr â’i gyffro.

16A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.

17A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help