Jeremeia 41 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Ismael, trwy fradwriaeth, yn lladd Gedaleia ac eraill, ac yn amcanu, efe a’r lleill, ffoi at yr Ammoniaid. 11 Johanan yn ennill y caethion, ac yn meddwl ffoi i’r Aifft.

1Ac er mwyn Gedaleia, yw 1 Bren 15:22yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â’r rhai a laddasid.

10Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef Pen 43:6merched y brenin, a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon.

11Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia;

12Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a’i cawsant ef wrth 2 Sam 2:13y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon.

13A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant.

14Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelsant, ac a aethant at Johanan mab Carea.

15Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon.

16Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe o Gibeon.

17A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa 2 Sam 19:37, 38Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i’r Aifft,

18Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help