1Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau.
2A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?
3Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
4Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem?
5Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
6Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: ymunioni.
12Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid.
13Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw.
14A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl,
35Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Salm 118:26Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
