1A’r trydydd dydd yr oedd priodas Pen 19:26Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? Pen 7:6ni ddaeth fy awr i eto.
5Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
6Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, Marc 7:3yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri.
7Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl.
8Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
9A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab,
10Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
11Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.
12Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, Mat 12:46a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
13A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;
14Mat 21:12; Marc 11:15; Luc 19:45Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd.
15Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau:
16Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.
17A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Salm 69:9Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.
18Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Mat 12:38; Ioan 6:30Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?
19Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Mat 26:61; 27:40; Marc 14:58; 15:29Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.
20Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?
21Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff.
22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, Luc 24:8ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.
24Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll;
25Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd 1 Sam 16:7; 1 Cron 28:9; Ioan 6:64; Act 1:24; Dat 2:23yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.