1 Thesaloniaid 3 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 54. —1 Paul yn tystiolaethu ei fawr gariad tuag at y Thessaloniaid, trwy anfon Timotheus atynt i’w cadarnhau, ac i’w diddanu; trwy lawenychu yn eu gweithredoedd da hwy; 10 a thrwy weddïo drostynt, a dymuno cael dyfod yn ddiogel atynt.

1Am hynny, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi.

8Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.

9Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad‐dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni,

10Rhuf 1:10, 11Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?

11A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi.

12A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad Pen 5:15; 2 Pedr 1:7i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi:

13I 1 Cor 1:8; Phil 1:10; Pen 5:23; 2 Thess 2:17; 1 Ioan 3:20gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help