1A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En‐gedi.
2Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion.
3Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a achubed fi o’th law di.
16A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
17Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.
18A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist.
19Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.
20Ac wele yn awr, Pen 23:17mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di.
21Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r Arglwydd, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad.
22A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dŷ: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r Pen 23:29amddiffynfa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
