Exodus 36 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Rhoddi offrwm y bobl yn llaw y gweithwyr. 5 Gorfod gwahardd haelioni y bobl. 8 Llenni y ceriwbiaid. 14 Y llenni o flew geifr. 19 Y babell‐len o grwyn. 20 Y byrddau a’u morteisiau. 31 Y barrau. 35 Y wahanlen. 37 Y gaeadlen i’r drws.

1Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd.

2A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i’w weithio ef.

3A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.

4A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

5A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy’r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy.

7Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.

8 cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

30Ac yr oedd wyth ystyllen; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.

31Ac efe a wnaeth Pen 25:28; 30:5farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

32A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du’r gorllewin.

33Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwr i gwr.

34Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.

35Ac efe a wnaeth Pen 26:31wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.

36Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur; a’u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.

37Ac efe a wnaeth Pen 26:36gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;

38A’i phum colofn, a’u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a’u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help