Exodus 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Haint yr anifeiliaid. 8 Pla y cornwydydd llinorog. 13 Cenadwriaeth Moses ynghylch y cenllysg. 22 Pla y cenllysg. 27 Pharo yn ymbil â Moses; 35 ac er hynny efe a galedir.

1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

2Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,

3Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

4A’r gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear.

17A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

18Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

19Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.

20Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai;

21A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.

22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo diweddar oeddynt hwy.

33A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.

34A phan welodd Pharo beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision.

35Pen 4:21A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help