Eseciel 7 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Llwyr anrhaith Israel. 16 Galarus edifeirwch y rhai a ddihangent. 20 Y gelynion yn halogi y cysegr, oherwydd ffieidd‐dra yr Israeliaid. 23 Dan rith cadwyn y mae yn dangos eu gofidus gaethiwed hwy.

1A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel; amdanat; wele, efe a ddaeth.

7lliaws, nac o’r eiddynt, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.

14Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i’r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.

15a roir heibio: eu tramgwydd eu hanwiredd ydyw.

20A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a’u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt.

21Ac mi a’i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a’i halogant ef.

22Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a’i halogant.

23Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a’r ddinas sydd lawn o drais.

24Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a’u cysegroedd a halogir.

25Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt.

26Daw Jer 4:20trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna Salm 74:9; Galar 2:9y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.

27Y brenin a alara, a’r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â’u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help