2 Cronicl 29 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y brenin duwiol Heseceia, 3 yn adfer gwir grefydd, 5 yn cynghori y Lefiaid: 12 a hwythau yn ymsancteiddio, ac yn glanhau tŷ Dduw. 20 Heseceia yn aberthu ebyrth cyhoedd, lle yr oedd y Lefiaid yn barotach na’r offeiriaid.

1Mab droesant eu gwarrau.

7fyddwch ddifraw yn awr: canys yr Arglwydd trwy eiriau yr Arglwydd, i lanhau tŷ yr Arglwydd.

16A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr Arglwydd i’w lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Arglwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd. A’r Lefiaid a’i cymerasant, i’w ddwyn ymaith allan i afon Cidron.

17Ac yn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o’r mis y daethant i borth yr Arglwydd: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr Arglwydd, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o’r mis cyntaf y gorffenasant.

18Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr Arglwydd, ac allor y poethoffrwm, a’i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a’i holl lestri.

19A’r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr Arglwydd.

20Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd.

21A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, ddygasant fychod y pech‐aberth o flaen y brenin a’r gynulleidfa, ac cantorion yn canu, a’r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.

29A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a’r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.

30A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.

31A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r Arglwydd; nesewch, a dygwch ebyrth, ac Lef 7:12ebyrth moliant, i dŷ yr Arglwydd. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.

32A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r Arglwydd.

33A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.

34Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny Pen 35:11eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na’r offeiriaid.

35Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd‐offrwm, a’r ddiod‐offrwm i’r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.

36A Heseceia a lawenychodd, a’r holl bobl, oherwydd paratoi o Dduw y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help