Numeri 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Cenhadon cyntaf Balac yn cael gwaharddiad gan Balaam. 15 Ei ail‐genhadon ef yn cael ganddo ddyfod. 22 Angel a’i lladdasai ef, oni buasai i’w asen ei waredu ef. 36 Balac yn ei groesawu ef.

1 wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.

6Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech.

7A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.

8A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam.

9A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi?

10A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd,

11Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan.

12A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia’r bobl: canys bendigedig ydynt.

13A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi.

14A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.

15A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn.

16A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf:

17Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn.

18A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo.

31A’r Arglwydd Gaer‐husoth.

40A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i’r tywysogion oedd gydag ef.

41A’r bore Balac a gymerodd Balaam, ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help