1Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd,
2Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd; dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a’th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth:
6Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw,
7Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn ddieithriaid, leiddiad.
10Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a’i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
11Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
12Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch,
13Ti a fuost yn sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dychryn fyddi, ac ni byddi byth.
20Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
21Gosod, fab dyn, dy wyneb yn ddiogel, ac adeiladant dai, a dirmygant hwy o’u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
