1 Corinthiaid 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 59. —1 Y mae efe yn dangos ei ryddid; 7 ac y dylai y gweinidog fyw wrth yr efengyl: 15 eto ddarfod iddo ef o’i wirfodd ymgadw, 18 rhag na’u gyrru hwy mewn traul, 22 na bod yn achos o rwystr i neb, mewn pethau cyffredin. 24 Bod ein bywyd ni yn debyg i yrfa.

1Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? Act 9:3, 17; 22:14, 18; 23:11; Pen 15:8oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? Pen 4:15onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

2Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys 2 Cor 3:2; 12:12sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.

3Fy amddiffyn i, i’r rhai a’m holant, yw hwn;

4Ad. 14; 1 Thess 2:6Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed?

5Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i’r apostolion eraill, ac Gal 1:19i frodyr yr Arglwydd, ac Mat 8:14i Ceffas?

6Ai myfi yn unig a Barnabas, 2 Thess 3:9nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio?

7Pwy sydd un amser 2 Cor 10:4yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd Diar 27:18; Pen 3:6, 7, 8yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi? neu pwy sydd Ioan 21:15; 1 Pedr 5:2yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?

8Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Deut 25:4Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu?

10Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai 2 Tim 2:6mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o’i obaith.

11Rhuf 15:27; Gal 6:6Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?

12Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Ad. 15; 2 Cor 11:9; 12:13Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, 2 Cor 11:12fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist.

13Num 18:8–20Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd‐gyfranogion o’r allor?

14Felly hefyd Mat 10:10; Luc 10:7yr ordeiniodd yr Arglwydd, Gal 6:6; 1 Tim 5:17i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl, fyw wrth yr efengyl.

15Eithr Act 18:3; 20:34; Pen 4:12; 1 Thess 2:9; 2 Thess 3:8myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys 2 Cor 11:10gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer.

16Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys Rhuf 1:14anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl.

17Canys os gwnaf hyn o’m bodd, y mae i mi wobr: ond os o’m hanfodd, Pen 4:1ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl.

18Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl.

19Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, Mat 18:15; 1 Pedr 3:1fel yr enillwn fwy.

20Ac Act 16:3; 18:18; 21:23 &cmi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Iddewon; i’r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf;

21Gal 3:2I’r Rhuf 2:12, 14rhai di‐ddeddf, megis di‐ddeddf, (Pen 7:22a minnau heb fod yn ddi‐ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di‐ddeddf.

22Rhuf 15:1; 2 Cor 11:29Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: Pen 10:33mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, Rhuf 11:14; Pen 7:16fel y gallwn yn hollol gadw rhai.

23A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y’m gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni.

24Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Gal 5:7; Phil 3:14; 2 Tim 4:7; Heb 12:1Felly rhedwch, fel y caffoch afael.

25Ac y mae pob un a’r sydd Eff 6:12; 1 Tim 6:12; 2 Tim 2:5; 4:7yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt‐hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, 2 Tim 4:8; Iago 1:12; 1 Pedr 5:4; Dat 2:10; 3:11un anllygredig.

26Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo’r awyr:

27Rhuf 8:13; Col 3:5Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac Rhuf 6:18, 19yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help