1A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di‐nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?
3Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?
4Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?
5Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.
6nes dibennu goleuni a thywyllwch.
11Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.
12Esa 51:15; Jer 31:35Efe a ranna y môr â’i nerth; ac a dery falchder â’i ddoethineb.
13Salm 33:6Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.
14Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
