1Ac yn y flwyddyn gyntaf i ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na’i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a’r rhai a’i dygasant hi, a’r hwn a’i cenhedlodd hi, a’i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn.
7Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;
8Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft, eu duwiau hwynt, a’u tywysogion, a’u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.
9A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas, ac a ddychwel i’w dir ei hun.
10A’i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.
11Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i’w law ef.
12Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.
13Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.
14Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.
15Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.
16A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o’i flaen; ac efe a saif yn a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.
18Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a’i detry arno ef.
19Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef.
20Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.
21Ac yn ei le yntau y saif I’r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.
25Ac efe a gyfyd ei nerth a’i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.
26Y rhai a fwytânt ran o’i fwyd ef a’i difethant ef, a’i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig.
27A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys anrheithiol.
32A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.
33A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer.
34A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith.
35A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol.
39Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.
40Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd.
41Ac efe a ddaw i’r a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol.
43Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.
44Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r gogledd a’i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.
45Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd, ar hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.