1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neilltuol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di.
3A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr.
4Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.
5Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.
6A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian.
7Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl.
8Ond os tlotach fydd efe na’th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia’r offeiriad ef.
9Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd, sanctaidd fydd.
10Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.
11Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad
12A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.
13Ac os efe gan brynu a’i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.
14A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif.
15Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.
16Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.
17Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif.
18Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di.
19Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef.
20Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy.
21A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i’r Arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad.
22Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd;
23Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r Arglwydd, y dydd hwnnw.
24Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.
25A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: Exod 30:13; Num 3:47; Esec 45:12ugain gera fydd y sicl.
26Ond Exod 13:2, 12y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i’r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.
27Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.
28 Jos 6:19 Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd.
29Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.
30A Gen 28:22; Num 18:21, 24; Mal 3:8, 10holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u piau: cysegredig i’r Arglwydd yw.
31Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato.
32A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll Edrych Jer 33:13; Esec 20:37a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i’r Arglwydd.
33Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd.
34Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.