Salm 86 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 861 Dafydd yn cadarnhau ei weddi, trwy wybod fod ganddo ffydd; 5 trwy ddaioni a gallu Duw: 11 yn deisyf parhau o’r gras cyntaf. 14 Ac, wrth gwyno rhag y balch, yn erfyn rhyw arwydd o ddaioni Duw. Gweddi Dafydd.

1Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.

2Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

3Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd.

4Llawenha enaid dy was: canys o uffern isod.

14 y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron.

15 Exod 34:6; Num 14:18; Neh 9:17; ad. 5; Salm 103:8; 111:4; 130:4, 7; 145:8; Joel 2:13Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.

16Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub Salm 116:16fab dy wasanaethferch.

17Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help