Numeri 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw yn peri rhifo y bobl. 5 Capteiniaid y llwythau. 17 Rhifedi pob llwyth. 47 Neilltuo y Lefiaid i wasanaeth yr Arglwydd.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail fis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd,

2Deuel.

15O lwyth Nafftali; Anira mab Enan.

16Dyma rai enwog y gynulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau, penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.

17A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau;

18Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau.

19Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.

20A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel;

21Y rhai a rifwyd ohonynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant.

22O feibion Simeon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a allai fyned i ryfel;

23Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil trigain mil a thri chant.

24O feibion Gad, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel;

25Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.

26O feibion Jwda, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

27Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Jwda, oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.

28O feibion Issachar, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

29Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

30O feibion Sabulon, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

31Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Sabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.

32O feibion Joseff, sef o feibion Effraim, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

33Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Effraim, oedd ddeugain mil a phum cant.

34O feibion Manasse, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

35Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasse, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

36O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

37Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.

38O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

39Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant.

40O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

41Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.

42O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

43Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

44Dyma’r rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau.

45Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel;

46A’r holl rifedigion oedd luman ei hun, trwy eu lluoedd.

53A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth.

54A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help