Genesis 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Lot yn derbyn angylion i’w dŷ. 4 Taro y Sodomiaid annuwiol â dallineb. 12 Danfon Lot i’r mynydd er mwyn ei ddiogelwch. 18 Yntau yn cael cennad i fyned i Soar. 24 Dinistrio Sodom a Gomorra, 26 Troi gwraig Lot yn golofn halen. 30 Lot yn trigo mewn ogof. 31 Godinebus fonedd Moab ac Ammon.

1A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear;

2Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, yn anwiredd y ddinas.

16Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas.

17Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.

22Brysia, dianc yno; oherwydd Edrych Pen 32:25, 26; Exod 32:10; Deut 9:14; Marc 6:5ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe Pen 13:10; 14:2enw y ddinas Soar.

23Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.

24Yna yr Deut 29:23; Esa 13:19; Jer 50:40; Esec 16:49; Hos 11:8; Amos 4:11; Seff 2:9; Luc 17:29; 2 Pedr 2:6; Jwdas 7

Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd.

25Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.

26Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth Luc 17:32yn golofn halen.

27Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle Pen 18:22y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd.

28Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.

29A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

30A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferch.

31A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.

32Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o’n tad.

33A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

34A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda’m tad; rhoddwn win iddo ef i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o’n tad.

35A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

36Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o’u tad.

37A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.

38A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help