Barnwyr 14 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Samson yn deisyf cael gwraig o’r Philistiaid: 6 yn lladd llew yn ei daith; 8 ac wrth ddychwelyd, yn cael mêl yn ei ysgerbwd ef. 10 Gwledd briodas Samson. 12 Ei wraig yn datguddio ei ddychymyg ef. 19 Yntau yn ysbeilio deg ar hugain o’r Philistiaid. 20 Ei wraig ef yn priodi un arall.

1A Samson a aeth i waered i Timnath; ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid.

2Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam, ac a ddywedodd, Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i mi.

3Yna y dywedodd ei dad a’i fam wrtho, Onid oes ymysg merched dy frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig, pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig? A dywedodd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi; canys y mae hi wrth fy modd i.

4Ond lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad:

13Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef.

14Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o’r bwytawr y daeth bwyd, ac o’r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod.

15Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch? onid felly y mae?

16A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i’m tad nac i’m mam: ac a’i mynegwn i ti?

17A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wledd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl.

18A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo’r haul, Beth sydd felysach na mêl? a pheth gryfach na llew? Dywedodd yntau wrthynt, Oni buasai i chwi aredig â’m hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg.

19Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; ac efe a aeth i waered i Ascalon, ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain, ac a gymerth eu hysbail, ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dychymyg: a’i ddicllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad.

20A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun, yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help