1Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgorn; a chodwch ffagl yn Beth‐haccerem: canys deg foethus.
3Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le.
4Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant.
5Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.
6Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o’i mewn.
7ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyfanheddol.
9Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden; tro dy law yn ei hôl, megis casglydd grawnwin i’r basgedau.
10Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, yn yr heol, ac ar gynulleidfa y gwŷr ieuainc hefyd: canys y gŵr a’r wraig a ddelir, yr henwr a’r llawn o ddyddiau.
12friw merch fy mhobl i yn esmwyth, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch.
15Pen 3:3; 8:12A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd‐dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr Arglwydd.
16Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am Esa 8:20; Pen 18:15; Mal 4:4; Luc 16:29yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a Mat 11:29chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi.
17A mi a osodais Esa 21:11; Esec 3:17; Hab 2:1wylwyr arnoch chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ar sain yr utgorn. Hwythau a ddywedasant, Ni wrandawn ni ddim.
18Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynulleidfa, gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt.
19Esa 1:2Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef Diar 1:31ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na’m cyfraith, eithr gwrthodasant hi.
20Esa 1:11; 66:3; Amos 5:21; Micha 6:6 &cI ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf.
21Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd; cymydog a’i gyfaill a ddifethir.
22Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele Pen 1:15; 5:15; 10:22; 50:41, 42, 43bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear.
23Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.
24Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant; Pen 4:31; 49:24; 50:43blinder a’n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor.
25Na ddos allan i’r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch.
26Merch fy mhobl, Pen 4:8ymwregysa â sachliain, ac Pen 25:34; Micha 1:10ymdroa yn y lludw; Sech 12:10gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.
27Pen 1:18; 15:20Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.
28Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, Pen 9:4yn rhodio ag enllib; Esec 22:18efydd a haearn ŷnt; llygru y maent hwy oll.
29Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.
30Esa 1:22Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o’r Arglwydd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.