Lefiticus 12 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Puredigaeth gwraig ar ôl esgor. 6 Ei hoffrymau am ei phuredigaeth.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna Luc 2:22bydded aflan saith niwrnod: Pen 15:19fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan.

3A’r Gen 17:12; Luc 1:59; 2:21; Ioan 7:22wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.

4A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.

5Ond os ar fenyw yr esgor hi; yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.

6A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:

7Ac offrymed efe hynny gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod drosti: a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw.

8Pen 5:7; Luc 2:24Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymered ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymod drosti; a glân fydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help