Eseia 34 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y barnedigaethau y mae Duw yn dial ei eglwys â hwynt. 11 Difrod ei gelynion hi. 16 Sicred yw y broffwydoliaeth.

1Nesewch, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a’i holl gnwd.

2Canys llidiowgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa.

3A’u lladdedigion a fwrir allan, ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a gywion yr estrys.

14Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a’r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.

15Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda’i gymar.

16Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a orchmynnodd, a’i ysbryd, efe a’u casglodd hwynt.

17Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help