1Y pryd hwnnw y clybu cyfreithlon i ti ei chael hi.
5Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.
7O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai.
8A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.
9A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi.
10Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam.
12A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu.
13 dyrfa fawr, ac Pen 9:36a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15 Marc 6:35; Luc 9:12; Ioan 6:5 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta.
17A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn.
18Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac Pen 15:36a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
20A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i’r llong, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.
23Marc 6:46Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: Ioan 6:16ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig.
24A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.
25Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr.
26A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.
27Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.
28A Phedr a’i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.
29Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.
30Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
31Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?
32A phan aethant hwy i mewn i’r llong, peidiodd y gwynt.
33A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a’i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.
34 Marc 6:53 Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.
35A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl;
36Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a Pen 9:20; Marc 3:10; Luc 6:19; Act 19:12chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.