Salm 20 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 201 Yr eglwys yn bendithio y Brenin yn ei fawrhydi. 7 Ei hyder hi yng nghymorth Duw.I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno.

2Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion.

3Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.

4Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor.

5Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner Exod 17:15; Salm 60:4yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.

6Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.

7 Salm 33:16; Diar 21:31; Esa 31:1 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.

8Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.

9Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help