Mathew 15 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 32. —3 Crist yn argyhoeddi yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, am dorri gorchmynion Duw trwy eu traddodiadau eu hunain 11 yn dysgu nad yw y peth sydd yn myned i mewn i’r genau yn halogi dyn: 21 yn iacháu merch y wraig o Ganaan, 30 a thorfeydd eraill lawer: 32 ac â saith torth, ac ychydig bysgod bychain, yn porthi pedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

1Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd,

8Esa 29:13; Esec 33:31Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf.

9Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, Col 2:18–22gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.

10 Marc 7:14 Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch.

11Act 10:15; Rhuf 14:17, 20; Titus 1:15Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn.

12Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?

13Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ioan 15:2Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.

14Gadewch iddynt: Pen 23:16; Luc 6:39tywysogion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.

15Marc 7:17A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni’r ddameg hon.

16A dywedodd yr Iesu, Pen 16:9A ydych chwithau eto heb ddeall?

17Onid ydych chwi yn deall eto, fod 1 Cor 6:13yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau, yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r geudy?

18Eithr Iago 3:6y pethau a ddeuant allan o’r genau, sydd yn dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny a halogant ddyn.

19Gen 6:5; 8:21; Diar 6:14; Jer 17:9Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau:

20Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.

21 Marc 7:24 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.

23Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.

24Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Pen 10:5, 6; Act 13:46; Rhuf 15:8Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.

25Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi.

26Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn.

27Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.

28Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.

29 Marc 7:31 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt Esa 35:5, 6; Pen 11:5 Luc 7:22gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt:

31Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32 Marc 5:1 A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?

34A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.

35Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear.

36A Pen 14:19chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a 1 Sam 9:13; Luc 22:19diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa.

37A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn.

38A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

39Marc 8:10Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help