Nehemeia 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Nehemeia, wrth glywed gan Hanani ddrwg gyflwr Jerusalem, yn galaru, ac yn ymprydio, ac yn gweddïo. 5 Ei weddi ef.

1Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,

2Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem.

3A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd 2 Bren 25:10a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân.

4A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd;

5A dywedais, Atolwg, Dan 9:4 Arglwydd Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, Exod 20:6yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion:

6Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, 1 Bren 8:29a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cyffesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom.

7Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.

8Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Lef 26:33; Deut 4:25, &c Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd:

9Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt; Deut 30:4pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo.

10A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol.

11Atolwg, Arglwydd, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help